collage

Amddiffyn Plant yn Effeithiol yng Ngwynedd er mwyn cadw plant yn ddiogel

Prosiect gan Wasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd ydy Amddiffyn Plant yn Effeithiol.  Mae’n cael ei gefnogi gan Fwrdd Trawsnewid Rhanbarthol Gogledd Cymru fel prosiect arloesol sy’n ceisio trawsnewid gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd.  Cychwynnodd y prosiect peilot, a fydd yn para dwy flynedd, ym mis Ebrill 2019.

Fel prosiect sy’n dangos y ffordd ar gyfer Gogledd Cymru, mae’r tudalennau hyn wedi’u hanelu'n bennaf at weithwyr proffesiynol o asiantaethau ar draws y rhanbarth, ond byddant o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol eraill hefyd – yng Nghymru a thu hwnt.  Byddant o fudd arbennig i weithwyr proffesiynol sydd â diddordeb ym maes ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.  Yn y tudalennau hyn, cewch wybodaeth am y prosiect a diweddariadau am ei ddatblygiad.

Nod y prosiect ydy gwneud yn siŵr bod ymarfer ym maes amddiffyn plant yn effeithiol, ac mae’r fframwaith ymarfer hwn wedi ei gynllunio i roi sylw i hyn.

 

Logos