- Gwneud yn siŵr bod staff yn defnyddio’r Model Risg i brofi’r trothwy tebygolrwydd o niwed arwyddocaol.
- Datblygu ein hymarfer presennol a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei sefydlu mewn elfennau eraill o’r model (h.y. sgyrsiau, newidiadau a mesuriadau).
Mae’r trothwy tebygolrwydd o risg arwyddocaol yn rhan hollbwysig o ddyletswyddau Awdurdodau Lleol i gynnal ymchwiliadau ac ymyrryd ym mywydau preifat teuluoedd. Mae hwn yn drothwy pwysig. Ar y naill law, rhaid parchu hawl teuluoedd i fywyd preifat, ond ar y llaw arall, rhaid i’r wladwriaeth amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin. Bydd y trothwy hwn yn cael ei asesu’n gyson fel rhan o waith y Gwasanaethau Plant o ddydd i ddydd, a bydd angen i ymarferwyr wneud yn siŵr bod y penderfyniadau hyn yn gyson a’u bod yn cyd-fynd â fframwaith sy’n sicrhau ansawdd prosesau gwneud penderfyniadau.
Bwriad Gwasanaethau Plant Gwynedd a Bruce Thornton wrth ddatblygu’r Model Risg oedd creu fframwaith dadansoddi y gellid ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau am y trothwy tebygolrwydd o niwed arwyddocaol. Mae hwn wedi cael ei sefydlu’n dda mewn ymarfer ac wedi’i blethu’n rhan o brosesau amddiffyn plant. Mae hyn yn cynnwys Ymholiadau Adran 47 ac Adroddiadau Gwaith Cymdeithasol i Gynadleddau. Gellir disgrifio’r Model Risg fel model dau gam sy'n cael ei ategu gan ganllawiau a theclynnau cefnogol. Bydd y Model Risg yn asesu i ba raddau mae anghenion plant yn cael eu diwallu, a gallu’r rhieni i ddiwallu'r anghenion hynny. Mae’n adnabod niwed posibl a pha mor debygol ydy’r niwed hwnnw o ddigwydd. Mewn achosion lle mae niwed yn bodoli, bydd yn asesu ydy’r niwed yn ‘arwyddocaol’ ai peidio.
Bydd gweithdai hyfforddi a chymorth mentora yn helpu staff i ddatblygu eu sgiliau i ddefnyddio’r Model Risg i gynnal asesiadau risg. Bydd y gwasanaeth mentora’n cael ei gyflwyno yn yr Awdurdod Lleol gan reolwyr a mentoriaid ymarfer, a drwy grwpiau cefnogol wedi’u hwyluso.
Mae’r Model Risg wedi cael ei ddatblygu a’i fabwysiadu gan Gyngor Gwynedd. Derbyniodd Cyngor Gwynedd Wobr Gofal Cymdeithasol yn 2011 am y gwaith, a chafodd Dafydd Paul Wobr Arloesi mewn Gwaith Cymdeithasol BASW yn 2013. Mae’r Model Risg wedi cael ei fabwysiadu gan amryw o Awdurdodau eraill yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal â hyn, mae wedi cael ei addasu i’w ddefnyddio gan CAFCASS Cymru ac ym maes ymyrraeth gynnar yn Lloegr.
Bydd hyfforddiant yn cael ei gyflwyno’n lleol a drwy Bruce Thornton, a bydd yn cynnwys:
- Asesu Risg o Niwed Arwyddocaol gan ddefnyddio Risg 2
- Cyflawni Asesiadau Risg Cyn Geni
- Gallu’r rhieni i newid
- Defnyddio teclynnau asesu arbenigol (e.e. Proffil Gofal wedi’i Raddio, Cyflwr y Cartref)
Bydd goruchwyliaeth, cefnogaeth gan gydweithwyr a’r Cydlynydd Amddiffyn Plant yn cefnogi’r hyfforddiant hwn yn ymarferol. Mae’r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn cynnig cymorth mentora ar gyfer unigolion a grwpiau.