- Sut mae staff yn defnyddio dulliau medrus wrth ymgysylltu gyda phobl; i ysgogi pobl; a chael sgyrsiau anodd gyda phobl.
- Cynyddu perchnogaeth plant a theuluoedd o’r newid(iadau) sydd ei angen.
Yn aml iawn, bydd ymarfer sy’n ymwneud ag amddiffyn plant yn golygu gwrthdaro rhwng gweithwyr cymdeithasol ac aelodau eraill o staff a’r teuluoedd maent yn gweithio gyda nhw. Mae deddfwriaeth yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ymchwilio – ac i ymyrryd os bydd angen. Mewn achosion pan fydd pryderon am niwed arwyddocaol yn ymwneud â gallu rhieni, mae’n rhaid i’r wladwriaeth ymyrryd ym mywydau preifat teuluoedd. Wrth gwrs, dydy hyn ddim bob amser yn creu’r awyrgylch gorau i sefydlu’r berthynas waith gadarnhaol sydd ei hangen i gefnogi teuluoedd. Mae sgyrsiau cydweithredol a thechnegau tebyg (e.e. cyfweld ysgogiadol) yn cydnabod y cyfyng gyngor hwn ac yn cynnig fframwaith i helpu gweithwyr i gael sgyrsiau gwell gydag unigolion a theuluoedd. Mae sgyrsiau cydweithredol yn cychwyn drwy ganfod beth ydy cryfderau’r teuluoedd a beth sydd bwysicaf iddynt, gan gymryd gofal i beidio â phwysleisio’n ormodol ar ddiffygion na bod yn feirniadol. Y nod ydy ceisio gwneud yn siŵr nad ydy’r teuluoedd yn teimlo’u bod yn colli rheolaeth ar y sefyllfa, ac yn mynd yn amddiffynnol. Mae hyn yn dipyn o her ym maes amddiffyn plant oherwydd y dyletswyddau sydd gan Awdurdodau Lleol, a gan fod trothwyon statudol yn cael eu hasesu o safbwynt diffygion.
Bydd gweithdai hyfforddi ar gyfer staff, a chymorth mentora, yn helpu i ddatblygu sgiliau ‘sgyrsiau cydweithredol’. Bydd y gwasanaeth mentora’n cael ei gyflwyno yn yr Awdurdod Lleol gan reolwyr a mentoriaid ymarfer, a drwy grwpiau cefnogol wedi’u hwyluso.
Mae sgyrsiau cydweithredol yn cael eu cefnogi gan Gofal Cymdeithasol Cymru, sydd wedi rhoi:
- Hyfforddiant ar sgyrsiau cydweithredol ar gyfer staff
- Hyfforddiant mentora
- Rhwydwaith Mentora Cenedlaethol
- Adnoddau ar-lein
Mae hyn yn cael ei gefnogi’n ymarferol drwy oruchwyliaeth a chefnogaeth gan gydweithwyr. Mae’r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn cynnig cymorth mentora ar gyfer unigolion a grwpiau.