‘Sut mae gwybod a ydy gwaith amddiffyn plant yn effeithiol?’ Dyna’r cwestiwn mae fframwaith ymarfer ‘Amddiffyn Plant yn Effeithiol’ yn ceisio’i ateb.
Fel model, mae ganddo bedair egwyddor:
Sgyrsiau – cyfathrebu effeithiol drwy ymarfer ‘sgyrsiau cydweithredol’
Trothwyon – gwneud penderfyniadau cyson wrth asesu risg
Newid – ffocws clir ar y newid sydd ei angen er mwyn atal niwed
Mesur – mesur cynnydd tuag at ganlyniadau
Mae’r model yn cael ei gyflwyno fel jig-so ac iddo bedwar darn. Mae pob elfen yn bwysig. Drwy fabwysiadu unrhyw elfen mewn ymarfer amddiffyn plant, bydd hynny’n cryfhau’r ymarfer ar sail canlyniadau. O fabwysiadu pob un o’r elfennau, a’u plethu’n rhan o’n gwaith o ddydd i ddydd, cynigir cydbwysedd da o sgiliau ymarfer a thechnegau newydd.
Bob dydd, bydd y gweithlu gofal cymdeithasol yn wynebu pob math o achosion a sefyllfaoedd. Y nod wrth ddatblygu’r fframwaith oedd rhoi llwybr i weithwyr ei ddilyn – llwybr a fyddai’n rhoi pwyslais ar dystiolaeth a’r ffordd orau o wneud penderfyniadau, ac a fyddai’n arwain at ganlyniad tebyg bob tro, beth bynnag yr achos a phwy bynnag oedd yn delio ag ef.
Ymarferwyr profiadol Cyngor Gwynedd ym maes amddiffyn plant sydd wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu’r fframwaith ymarfer ei hun, a’i nod ydy diwallu anghenion y gweithlu gofal cymdeithasol yn eu hymarfer o ddydd i ddydd wrth iddynt wneud y gwaith anodd a heriol o amddiffyn plant rhag cael eu niweidio a’u cam-drin.