Er mwyn ein cynorthwyo i gyflwyno Amddiffyn Plant Effeithiol i’n hymarfer, rydym wedi defnyddio dau ddull penodol. Yn gyntaf, defnyddio Mentor Ymarfer i weithio’n uniongyrchol gydag ymarferwyr a thimau, ac yn ail ymestyn ein defnydd o Ymarfer Adlewyrchol yn ein gwaith o ddydd i ddydd.
Ymarfer adlewyrchol yw'r weithred o gamu'n ôl o'r gwneud. Mae tri math o ymarfer adlewyrchol. Un ffordd ydi trwy gamu’n ôl ac adlewyrchu ar rywbeth sydd eisoes wedi digwydd. Dyma ‘adlewyrchu ar weithredu’ a’r math mwyaf cyffredin o adlewyrchu. Gellir defnyddio adlewyrchu hefyd i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer rhywbeth nad ydych eto wedi'i wneud (adlewyrchu ar gyfer gweithredu). Y trydydd math yw ‘adlewyrchu wrth weithio.’ Dyma’r sgil o allu camu yn ôl ac adlewyrchu er bod rhywun yn ei chanol hi yn gweithredu.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys dolenni i nifer o adnoddau a ddatblygwyd gan y prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol, sef:
- Datblygu Modelau Ymarfer Adlewyrchol a'r Canllaw Byr i Ymarfer Adlewyrchol - llyfryn a ddatblygwyd gan ymarferwyr yn cynnwys rhai modelau adlewyrchu y maent wedi'u datblygu eu hunain. Yn cynnwys fideo am brofiad staff yn datblygu'r modelau hyn.
- Ymarfer Adlewyrchol mewn Gwaith Cymdeithasol - cyfres o fideos o sgwrs rhwng Siobhan Maclean, awdurdod rhyngwladol ar Ymarfer Adlewyrchol a Wendy Roberts, Mentor Ymarfer a Darlithydd Gwaith Cymdeithasol.
- Mae Camau Adlewyrchu yn animeiddiad cyfareddol o’r tri cam adlewyrchu. Yn ogystal â dolenni i'r fideos, gellir lawrlwytho rhai o adnoddau'r fideo hefyd.