Digwyddiad Dysgu Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot – Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau mewn Gwasanaethau Plant

Cafodd nifer o’r unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect gyfle i fynd i Fargam, i Ddigwyddiad Dysgu a oedd yn cael ei drefnu gan Wasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot a Gofal Cymdeithasol Cymru. Rhannodd Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot eu stori am eu siwrnai nhw o ran Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar Ganlyniadau.

Rhannodd nifer o siaradwyr enghreifftiau o ymarfer da a sôn am y gwaith sydd wedi cael ei wneud i drawsnewid ymarfer yng Nghastell-nedd Port Talbot. Trafodwyd newidiadau i strwythurau a gweithdrefnau yn yr Awdurdod Lleol, a chlywyd storïau defnyddwyr gwasanaeth ynglŷn ag effaith y trawsnewid arnyn nhw.  Pwysleisiwyd bod rhoi’r dull hwn ar waith ar draws y sbectrwm o angen wedi arwain at fanteision ym mhob rhan o’r system.  Wrth i deuluoedd fynd ati i ddiffinio eu canlyniadau eu hunain, ac wrth ganolbwyntio ar gryfderau a newid sgyrsiau, roedd sefyllfaoedd yn tueddu i beidio â gwaethygu.  Roedd yr arwyddion cynnar yn dangos bod gweithio mewn ffordd a oedd yn cynnwys y system gyfan wedi cael effaith ar nifer bosibl y plant a oedd yn destun cynlluniau amddiffyn neu mewn sefyllfa o orfod derbyn gofal.

Roedd y digwyddiad yn gyfle hefyd i rwydweithio a chael sgwrs â gweithwyr proffesiynol o bob cwr o’r wlad ac o bob math o broffesiynau.

NPT