Cynhaliwyd ail Ddiwrnod Rhwydwaith Mentoriaid Cymru Gyfan yn Llandrindod ac roedd dros 70 o bobl o bob rhan o Gymru yn bresennol. Gofynnwyd i Wendy Roberts gyflwyno trosolwg o'r Model Amddiffyn Plant yn Effeithiol i rannu ein profiad o waith sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yn yr arena amddiffyn plant. Hefyd yn cyflwyno roedd unigolion o Sir Ddinbych gyda ‘O baneli adnoddau i fyfyrio a gwneud penderfyniadau ar y cyd’, a Chyngor Sir Fynwy gyda ‘Gwaith Partneriaeth: cyd-ddealltwriaeth ar gyfer canlyniadau gwell’.
Roedd cyfle i drafod o fewn grwpiau gryfderau, risgiau â blaenoriaeth a'r dysgu a gymerwyd o bob cyflwyniad, ac yna sesiwn holi ac ateb gyda phob cyflwynydd.
Mae rhannu profiadau ledled Cymru a dysgu o'r arfer da sydd ar gael yn cynnig mewnwelediad a syniadau gwerthfawr i weithwyr o fewn gwasanaethau plant ac oedolion. Roedd yn gyfle gwych i rannu'r weledigaeth ar gyfer y prosiect yma a'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma.