Fel rhan o’r prosiect, gwahoddwyd nifer o unigolion i weithdy cynllunio ym Mhenrhyndeudraeth i fynd ati ar y cyd i gynhyrchu’r teclyn ‘camau tuag at newid’. Rhoddwyd gwahoddiad i’r Cydlynydd Amddiffyn Plant, Rheolwr y Tîm, Rheolwr y Prosiect a Swyddogion Sicrhau Ansawdd. Y nod oedd datblygu rhai o’r teclynnau ac edrych yn fanwl ar newidiadau i’r Adroddiad Gwaith Cymdeithasol i Gynhadledd. Yr her oedd cynnwys tri maes newid mewn un cofnod, gan adnabod tystiolaeth ar gyfer ‘ddim yn ddigon da’ a ‘digon da’. Gyda'i gilydd, daeth y grŵp o hyd i atebion ar gyfer y dasg, ond roedd y broses drwyddi draw yn atgyfnerthu ac yn cadarnhau holl bwrpas y prosiect, ac yn enghraifft o sgwrs gydweithredol yng ngwir ystyr y gair. Rhannwyd y ffurflenni newydd â phob aelod o staff er mwyn cael rhagor o adborth a’u treialu. Datblygwyd ‘camau tuag at newid’ yn declyn ar wahân, ond cafodd ei blethu'n rhan o gofnodion a phrosesau eraill hefyd.