Bu sawl unigolyn sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect ym Mhowys yn y Diwrnod Rhwydwaith Mentoriaid Cymru Gyfan – y diwrnod cyntaf o’i fath i gael ei gynnal.
Yn dilyn yr hyfforddiant ‘Arweinwyr Mentora a Chymell’, roedd y digwyddiad hwn a gynhaliwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfle i rannu ymarfer da ac i rwydweithio a sgwrsio â gweithwyr proffesiynol eraill o bob rhan o’r wlad. Ei nod oedd helpu mentoriaid sy’n ymwneud â sgyrsiau cydweithredol a dulliau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar draws Cymru.
Trafodwyd beth oedd pobl yn ei sylwi am effaith eu gwaith gydag unigolion ac ar draws sefydliadau, a’r heriau presennol sy’n ei gwneud yn anodd gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Diddorol iawn oedd clywed am brofiadau eang pobl wrth roi'r dull hwn ar waith, yn enwedig mewn gwasanaethau oedolion ac ar draws ei feysydd o arbenigedd. Difyr oedd gweld i ba raddau mae’r buddsoddiad yn amrywio o un Awdurdod i’r llall, ac i ba raddau oedd y dull wedi cael ei blethu i gyd-fynd â’r strategaeth ymyrraeth ehangach. Hwn oedd y digwyddiad cyntaf o nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a gynhaliwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi’r gwaith hwn a helpu i roi hwb i ddysgu.