Lansio prosiect yn ardal Meirionnydd Dwyfor

Y bwriad wrth gynllunio’r prosiect oedd ei dreialu mewn un ardal cyn ei gyflwyno'n raddol ymysg timau eraill.  Roedd y digwyddiad lansio ffurfiol yn gyfle da i ddod â phawb at ei gilydd.

Roedd unigolion a oedd wedi bod yn rhan allweddol o’r prosiect, ynghyd â gweithwyr o’r safle peilot, yn barod i rannu eu gweledigaeth ar gyfer y prosiect a’r ffordd orau o’i roi ar waith.  Roedd y rhan fwyaf o’r staff eisoes wedi cael yr hyfforddiant paratoadol ar gyfer Sgyrsiau Cydweithredol, y Model Risg ac Amddiffyn Plant yn Effeithiol.  Fel rhan o’r lansiad, manteisiwyd ar y cyfle i gynnal gweithdy byr i grynhoi elfen ‘Mesur’ y model Amddiffyn Plant yn Effeithiol.  Roedd hyn yn atgyfnerthu’r prosesau a’r technegau a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu ‘Camau tuag at Newid’, ac yn gyfle i atgoffa pawb am y drefn ar gyfer adnabod y camau yn y ffordd orau bosibl.  Roedd y lansiad yn gyfle symbolaidd i roi’r prosiect ar hwyl ac i ddathlu hynny.  Trefnwyd i gael cacen gyda logo’r prosiect arni, a chafodd ei thorri gan Heidi Rylance, Rheolwr Tîm Meirion Dwyfor a Wendy Roberts, Arweinydd Trawsnewid Ymarfer i nodi’r achlysur.  Yn anffodus, roedd pawb yn rhy brysur yn bwyta’r gacen i dynnu lluniau...

Lansio