Bu’r prif unigolion sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiect mewn cyfres o weithdai ar gyfer staff Gwasanaethau Plant ac Oedolion i ystyried sut mae sefydlu prosesau gweithio cydweithredol mewn ymarfer, a gweithio mewn ffordd sy'n rhoi pwyslais ar gryfderau a chanlyniadau. Roedd yr hyfforddiant hwn yn gyfle da i ddatblygu sgiliau mentora ymarferwyr yng Ngwynedd, yn y Gwasanaethau Plant ac Oedolion, er mwyn cael cronfa o fentoriaid a fydd yn helpu i wneud yn siŵr bod sgyrsiau cydweithredol, yn ogystal â phrosesau gweithio sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, yn cael eu rhoi ar waith. Yn ystod yr hyfforddiant, edrychwyd eto ar brif egwyddorion gwaith sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac ystyried sut gallwn ni, fel mentoriaid, ddylanwadu ar bobl eraill yn yr Awdurdod Lleol a thu hwnt.
Roedd y diwrnodau hyfforddi'n gyfle i rannu a datblygu syniadau am sut mae’r prosiect Amddiffyn Plant yn Effeithiol yn gallu cefnogi staff yn y rheng flaen o safbwynt elfen 'sgyrsiau’ y model. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, mae’r rheini a gymerodd ran wedi gallu cofrestru i fod yn aelodau o Rwydwaith Mentoriaid Cymru Gyfan, er mwyn gallu rhannu syniadau ac ymarfer da.