Roedd Llywodraeth Cymru wedi trefnu cynhadledd genedlaethol i drafod gwaith y Cynulliad ar ei weledigaeth i leihau niferoedd y plant sydd mewn gofal yng Nghymru. Gofynnwyd i Dafydd Paul roi cyflwyniad i'r Gynhadledd ar waith Gwynedd.
Roedd y Gynhadledd yn gyfle gwych i gael blas ar waith Awdurdod Castell-nedd Port Talbot ar ymarfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, ynghyd â chyflwyniadau gan IPC ar rieni gydag anableddau dysgu. Rhoddwyd y prif gyflwyniad gan Gyngor Glasgow, a hynny ar ei waith i leihau niferoedd y plant sy'n derbyn gofal.
Cyflwynodd Dafydd sesiwn gweithdy o’r enw ‘Rheoli Risg yn Gadarnhaol ac Amddiffyn Plant yn Effeithiol’. Cyflwynodd dair prif thema. Yn gyntaf, gwaith Gwynedd ers 2012 ar Leihau Niferoedd Plant Mewn Gofal, ac yna gwaith ar y prosiectau Model Risg ac Amddiffyn Plant yn Effeithiol. Sbardunodd y sesiwn gwestiynau diddorol iawn. Roedd gan bobl ddiddordeb mewn cyflwyno’r model ar draws y continwwm o angen, ac yn fwy cyffredinol mewn gwasanaethau i oedolion. Roedd cwestiwn arall yn gofyn sut mae cadw ffocws ar roi’r Model Risg ar waith dros gyfnod o 10 mlynedd. Tynnodd Dafydd sylw at y tebygrwydd rhwng y ffocws sydd ei angen i roi modelau ar waith ar lefel sefydliadol a’r ffocws ar newid sydd ei angen mewn Cynadleddau Achos gyda theuluoedd.
Rhannwyd papurau briffio a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y Model Risg ac am Amddiffyn Plant yn Effeithiol. Yn fwy na dim, roedd yn gyfle i rannu gwybodaeth am ein gwaith ac i godi ei broffil yn genedlaethol.