Sesiynau Cysylltiadau Adlewyrchol

Y llynedd des i ar draws rhywfaint o hyfforddiant oedd yn cael ei gynnal gan Siobhan Maclean a BASW o’r enw ‘Reflective Connections’. Oherwydd ein diddordeb mewn ymarfer adlewyrchol, roeddwn i eisiau cofrestru ar unwaith i ddysgu am y model newydd hwn a gweld a oedd yn rhywbeth y byddwn efallai'n gallu ei ddefnyddio yng Ngwynedd.

Trwy gydol y prosiect rydym wedi trefnu sesiynau adlewyrchol, yn unigol ac mewn grwpiau, ar gyfer gweithwyr rheng flaen er mwyn eu cefnogi i gael gofod adlewyrchol a hefyd i helpu i ymgorffori rhywfaint o'u dysgu a'u gwybodaeth yn ymarferol. Ond roedd y sesiynau grŵp yn eithaf traddodiadol yn yr ystyr y byddai'n canolbwyntio ar achosion (fe wnaethon ni greu model CLEAR i gefnogi'r math o ddysgu gweithredol o sesiwn), neu byddai'n cael ei arwain gan yr unigolyn sy'n cydgysylltu gyda'r bwriad o annog pobl i adlewyrchu a rhannu meddyliau.

Crëwyd Sesiynau Cysylltiadau Adlewyrchol gan Siobhan Maclean a Phrifysgol Caer yn ystod Covid 19 er mwyn creu strwythur ar gyfer sesiynau adlewyrchol a fyddai’n gweithio’n rhithiol ac a fyddai hefyd yn dod â synnwyr o gysylltedd yn ôl i weithwyr a oedd yn adrodd eu bod yn teimlo’n ynysig ac ar eu pennau eu hunain. Roeddwn i wrth fy modd gyda strwythur y sesiwn yn syth. Nid yw'n canolbwyntio ar un person yn unig, mae pawb yn cyfrannu trwy adlewyrchu ar rywbeth, sy'n golygu ei fod yn llai brawychus i rai. Rhoddir dau fodel adlewyrchol ac mae'r unigolyn yn dewis yr un y mae'n well ganddo ei ddefnyddio, ac mae hyn yn helpu i ddod â phobl i'r arfer o ddefnyddio modelau i strwythuro eu adlewyrchiad. Mae'r cydlynydd yn canolbwyntio ar ddod o hyd i gysylltiadau a bwydo'r rhain yn ôl i'r grŵp ar y diwedd, sy'n ysgogi adlewyrchiadau dyfnach ac ymdeimlad pellach o gysylltedd. Roeddwn i'n gwybod ar unwaith fy mod i am ddod â'r model hwn i mewn i fy sesiynau gyda gweithwyr! Ar ben hynny, pan wnaethom drafod y sesiwn gyda rheolwyr tîm, roeddent yn teimlo bod hwn yn gyfle gwych i gryfhau cysylltiadau ar draws y timau ac felly cytunwyd y byddem yn ceisio dod ag aelodau pob tîm gwahanol at ei gilydd ar gyfer y sesiynau.

Hyd yma rwyf wedi cynnal 4 sesiwn cysylltiadau adlewyrchol ac rwyf wedi mwynhau'r profiad o gydlynu pob un yn fawr. Mae rhai o'r cysylltiadau sydd wedi dod allan o'r sesiynau yn hyfryd iawn i'w gweld, a theimlaf ei bod yn hynod o bwysig i ni yn y maes glywed am rai o'r prif themâu sydd wedi bod yn gysylltiedig ag arfer da, er bod y gweithwyr yn aml yn adlewyrchu ar sefyllfaoedd y maent wedi'u ffeindio yn anodd. Rhai o'r prif themâu dros y sesiynau cychwynnol oedd: clywed llais y plentyn; sgiliau cyfathrebu; gwerthoedd clir; gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn; hunanymwybyddiaeth - pethau sy'n wirioneddol werthfawr yn ein byd gwaith cymdeithasol.

reflective connections