Sesiynau mentora 1:1

Wrth greu'r Model Amddiffyn Plant yn Effeithiol, ystyriwyd ei bod yn elfen allweddol o'r prosiect i gael mentor ymarfer a allai fentora'r gweithwyr cymdeithasol rheng flaen o ran deall gwahanol elfennau’r model, a hefyd ymgorffori hyfforddiant i’r ymarfer.

Trefnir sesiynau cychwynnol i gwrdd â'r gweithwyr yn unigol gan ei bod yn bwysig dechrau adeiladu perthynas waith gadarnhaol lle mae gweithwyr yn teimlo'n gyffyrddus yn mynd at y mentor am gyngor neu gefnogaeth. Mae hefyd yn bwysig cysylltu â rheolwr y tîm i gynllunio sut i ymgysylltu'n effeithiol â'r gweithwyr. Crëwyd dogfen yn egluro rôl y mentor a'r gefnogaeth sydd ar gael i weithwyr.

Trefnir o leiaf dau o sesiynau dilynol pellach i gryfhau dealltwriaeth a hyder y gweithwyr yn eu defnydd o’r model ac i gynnig cefnogaeth bellach i weithwyr gyda’r teclynnau a ddarperir wrth weithio gyda phlant sydd mewn perygl o niwed arwyddocaol.

Ymhellach i hyn, trefnir sesiynau ychwanegol rhwng y mentor a'r gweithiwr yn ôl yr angen - gall hyn fod mewn perthynas ag unrhyw agwedd o’r model: weithiau mae angen trafodaeth am achos i gynorthwyo’r broses o adlewyrchu; weithiau mae gweithwyr eisiau cefnogaeth i ddrafftio’r ‘camau tuag at newid’; mae rhai yn dymuno trafod y Model Risg; ac mae rhai eisiau trafod y ffocws ar y newid mae nhw wedi'i adnabod. Beth bynnag yw'r materion sy'n codi i'r gweithiwr, mae'r mentor yn gallu creu lle i allu cynnal trafodaethau o'r fath.

Rhaid i rôl y mentor fod yn hyblyg ac yn ddeallus; gan gydnabod bod y gweithwyr rheng flaen yn brysur iawn ac y gall eu diwrnod cynlluniedig newid yn gyflym iawn yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd gydag unrhyw deulu y gallent fod yn ei gefnogi. Mae'r mentor ar gael i gefnogi dros y ffôn, e-bost, sesiynau unigol, bod yn bresennol yn y swyddfa neu fod ar gael i fynychu cyfarfod; mae hyn hefyd yn cynnig hyblygrwydd i weithwyr o ran sut y gallant gael gafael ar gymorth.

Mentora