Sesiynau mentora grwp

Fel prosiect gwnaethom gydnabod y buddion o drefnu sesiynau grŵp ar gyfer gweithwyr rheng flaen, ac mae'r mentor wedi bod yn gyfrifol am sefydlu a hwyluso'r rhain. Cynullir grwpiau er mwyn archwilio profiadau ymarfer a chyfleoedd ar gyfer twf. Ochr yn ochr â goruchwyliaeth ffurfiol gan reolwyr a goruchwyliaeth cymheiriaid sy'n digwydd yn naturiol yn y swyddfa, mae'r sesiynau grŵp yn darparu lle i annog dysgu a datblygu.

Mae strwythur sesiynau grŵp fel arfer yn dechrau gyda datblygu sylfaen sgiliau a gwybodaeth trwy ganolbwyntio ar bwnc penodol sy'n berthnasol i'r prosiect, ac yna ffocws ar ymarfer adlewyrchol. Mae ymdrech i ymgorffori gwahanol ffyrdd o rannu gwybodaeth gan ein bod yn gwybod bod gan bobl wahanol arddulliau dysgu, felly ar brydiau defnyddir fideos neu weithgareddau gweledol hefyd. Yn aml, mae gweithwyr yn symud yn naturiol i adlewyrchu trwy gydol y sesiwn ac mae llawer o drafodaethau'n digwydd.

O fewn y prosiect, datblygwyd fframwaith ymarfer adlewyrchol newydd i'w ddefnyddio mewn sesiynau grŵp, a bydd hyn yn rhan o'r sesiynau grŵp wrth iddynt barhau yn ystod y prosiect. Mae'r fframwaith hwn yn seiliedig ar y model CLEAR a ddefnyddir amlaf ym maes cymhelliant a mentora.

Trwy drafod gyda'r rheolwr tîm a'r gweithwyr, cytunwyd ar sesiynau grŵp bach i ddechrau yn hytrach na sesiynau tîm cyfan, er mwyn rhoi lle a chyfle i bobl siarad yn agored ac yn gyffyrddus. Bydd rhai sesiynau'n canolbwyntio ar y tîm cyfan er mwyn rhannu gwybodaeth i'r eithaf.

Yn yr un modd â'r sesiynau unigol, mae angen hyblygrwydd a gall y niferoedd mewn sesiwn grŵp newid oherwydd gofynion gwaith. Mae cefnogaeth rheolwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn ac anogir gweithwyr i fynychu sesiynau grŵp er mwyn sicrhau bod lle myfyriol wedi'i drefnu ar gael iddynt..

Mentora