O’r cychwyn cyntaf, mae rhannu gweledigaeth a dysg wedi bod yn ganolog i’r prosiect hwn. Cafodd Dafydd Paul, Arweinydd y Prosiect, wahoddiad i roi cyflwyniad i’r Bwrdd Trawsnewid Plant. Roedd y Bwrdd wedi bod yn gefnogol i’r prosiect, ac roedd hyn yn gyfle heb ei ail i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gynnydd.
Roedd yn gyfle hefyd i drafod y syniadau a oedd wrth wraidd y prosiect gyda chynrychiolwyr o bob asiantaeth, ac i glywed rhai o’u hawgrymiadau. Mae’r prosiect, i raddau helaeth, yn seiliedig ar brif swyddogaethau statudol Awdurdod Lleol ym maes amddiffyn plant, ond mae’n effeithio ar asiantaethau eraill sy'n rhan o’r system ddiogelu hefyd. Cafodd cydweithwyr yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector glywed am weledigaeth y prosiect, ac am ei nod i drawsnewid ymarfer. Cyflwynwyd a thrafodwyd cysylltiad strategol y prosiect ag agenda Cymru Iachach hefyd. Un pwnc oedd o ddiddordeb mawr oedd pa mor anodd ydy mesur prosiectau sy’n drawsnewidiol eu natur. Roedd yn anodd peidio â throi’n ôl at syniadau ‘status quo’ am fesurau a dangosyddion; sy'n wahanol i natur dysgu sy'n seiliedig ar brofiad prosiectau arloesol fel Amddiffyn Plant yn Effeithiol. Cafodd y cyflwyniad dderbyniad gwresog, a phwysleisiwyd cefnogaeth y Bwrdd. Roedd rhai awdurdodau'n awyddus i ddod i weld y prosiect ar waith ac i gael blas ar beth roeddem ninnau’n ei wneud.