Gweithdy Datblygu ‘Camau tuag at Newid’ ac addasu Adroddiadau i Gynadleddau Achos
Fel rhan o’r prosiect, gwahoddwyd nifer o unigolion i weithdy cynllunio ym Mhenrhyndeudraeth i fynd ati ar y cyd i gynhyrchu’r teclyn ‘camau tuag at newid’. Rhoddwyd gwahoddiad i’r Cydlynydd Amddiffyn Plant, Rheolwr y Tîm, Rheolwr y Prosiect a Swyddogion Sicrhau Ansawdd. Y nod oedd datblygu rhai o’r teclynnau ac edrych yn fanwl ar newidiadau i’r Adroddiad Gwaith Cymdeithasol i Gynhadledd. Yr her oedd cynnwys tri maes newid mewn un cofnod, gan adnabod tystiolaeth ar gyfer ‘ddim yn ddigon da’ a ‘digon da’. Gyda'i gilydd, daeth y grŵp o hyd i atebion ar gyfer y dasg, on